Beth yw ystyr yr ymadrodd ‘Gwlad y Menig Gwynion’ ac ym mhle allai gael rhagor o wybodaeth?

Ateb

Cyfeiria'r ymadrodd ‘Gwlad y Menig Gwynion’ at yr arfer o gyflwyno menig gwyn i’r barnwr pan nad oedd achos i’w glywed mewn brawdlys arbennig. Gan fod hyn yn ymddangos fel pe bai’n digwydd yn eithaf aml yng Nghymru, fe ddaeth y wlad felly yn adnabyddus fel gwlad y menig gwynion.

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y ffynonellau canlynol:

• ‘The Legal History of Wales’ gan Thomas Glyn Watkin
Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2007. ISBN: 9780708320648 / 0708320643

• ‘‘Hen Wlad y Menig Gwynion’: Profiad Sir Gaerfyrddin’ gan Russell Davies
‘Cof Cenedl VI’, tt. 135-159. Gwasg Gomer, 1991.

• ‘Hanes Cymru / A History of Wales in Welsh’ gan John Davies
Llundain: Allen Lane The Penguin Press, 1990. ISBN: 0713990112

• ‘Legal Wales: Its Past, Its Future’ gan Thomas Glyn Watkin
Caerdydd: Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru, 2001 (Cyfrol 1). ISBN: 0954163702

• ‘A Modern Legal History of England and Wales, 1750-1950’ gan A. H. Manchester
Llundain: Butterworth, 1980. ISBN: 0406622647 / 0406622639

  • Diweddarwydd diwethaf. May 07, 605
  • Gwelwyd 75
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0