A oes modd i mi weld llawysgrif gyfyngedig?
Ateb
Polisi’r Llyfrgell o ran gweld llawysgrif wreiddiol / eitem gyfyngedig yw y mae’n ofynnol i bob darllenydd ymgynghori â’r copi dirprwyol (microffilm / digidol) o’r eitem yn y lle cyntaf. Os byddwch wedyn yn gweld bod y copi dirprwyol yn annigonol ar gyfer pwrpas eich ymchwil, gallwch wneud cais i weld y llawysgrif wreiddiol. Bydd aelod o’n tîm Gofal Casgliadau yn ystyried y cais hwn ar ddiwrnod eich ymweliad. Nodwch y bydd angen i chi gael tocyn darllen dilys i ymgynghori ag eitemau yn yr ystafelloedd darllen.