A oes yna restr o enwau Cymraeg ar gyfer gloÿnnod byw (pili-pala) a gwyfynod?
Ateb
Y mae yna restr o gyfieithiadau Cymraeg wedi’u gyhoeddi ar wefan ‘Cyngor Cefn Gwlad Cymru’, sydd i’w weld drwy ddilyn y ddolen hon:
http://www.ccgc.gov.uk/publications--research/terminology-dictionaries.aspx
Mae yna hefyd nifer o gyhoeddiadau a allai fod o ddiddordeb, megis:
· ‘Llyfr Natur Iolo’ gan Paul Sterry, Iolo Williams a Bethan Wyn Jones
Llanrwst : Gwasg Carreg Gwalch, 2007. ISBN: 9781845271312 / 1845271319
· ‘Gwyfynod, Glöynnod Byw a Gweision Neidr’
Cymdeithas Edward Llwyd, 2009. ISBN: 9781845272593
· ‘Butterflies of Gwynedd’ gan Paul Whalley
Llanberis : First Hydro, [1996]. ISBN: 0952882604
Hefyd, gellir dod o hyd i’r enwau’n hawdd yng Ngeiriadur yr Academi: ‘The Welsh Academy English-Welsh Dictionary’ gan Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. ISBN: 0708311865.