Pa ffynonellau fydd o gymorth i chwilio gwybodaeth am Ficer / Rheithor?
Ateb
Mae gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru casgliad enfawr o bapurau newydd a gyhoeddwyd yng Nghymru, yn ogystal â chyhoeddiadau megis y ‘Crockford’s Clerical Directories’, blwyddlyfrau, adroddiadau blynyddol a chylchgronau a allai hefyd fod o gymorth a diddordeb.
Trwy ddarparu gwybodaeth bellach ynglŷn â pha ardaloedd roedd y Ficer / Rheithor yn gwasanaethu gall y tîm ymholiadau (www.llyfrgell.cymru/gwasanaethau/ymholiadau/ymholiadau-llgc) wedyn edrych ar ein daliadau yn fanwl ar eich rhan.