Rwy’n Clerc y Dref i Gyngor Tref Aberhonddu. Byddem ni’n hoffi arddangos ein Siarter Frenhinol, a roddwyd i’r dref yn 1412 gan Harri IV, ar achlysur Jiwbilî Diemwnt y Frenhines yn 2012. Rydym wedi holi Adran Archifau Prifysgol Aberystwyth ac awgrymwyd ef
Ateb
Diolch yn fawr am eich ymholiad. Rydw i wedi chwilio ein catalogau o archifau a llawysgrifau ond yn anffodus nid ydw i wedi gallu dod o hyd i gyfeiriad i siarter brenhinol Aberhonddu, 1412.
Mae gan y Llyfrgell siarter Philip a Mary, dyddiedig Mawrth 1555/6 (cyf. NLW Rolls 276), a chopi o siarter Humphrey, Iarll Stafford, i fwrdeiswyr Aberhonddu, 1443 (cyf. Castle Gorfod A3). Mae’n bosib cael copïau o’r rhain ac mae manylion o’n gwasanaethau reprograffig ar gael ar wefan LlGC:
https://www.llyfrgell.cymru/gwasanaethau/atgynhyrchu-ac-ailddefnyddio/ceisiadau-am-gopiau
Rydw i hefyd wedi chwilio gwefannau’r ‘National Register of Archives’ ac Archifau Cymru, ond heb lwyddiant. Am wybodaeth hanesyddol cyffredinol am Aberhonddu gall y cyhoeddiad isod fod o ddefnydd:
Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Wales (London 1842 and other editions).