A yw’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw unrhyw fapiau neu fath arall o wybodaeth sydd yn ymwneud â Therfynau Plwyfol ar gyfer ardaloedd penodol?

Ateb

 

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol y mapiau hanesyddol canlynol sy’n dangos ffiniau plwyfi:
- Mapiau Degwm
- Mapiau OS 1" Index to Tithe
- Mapiau OS 6" a 25" County Series
- Mapiau The Institute of Heraldic and Genealogical Studies (http://www.ihgs.ac.uk/index.html)

Mae'n bosib bod ffiniau plwyfi, neu rannau o ffiniau, yn cael eu dangos ar fapiau eraill yn y casgliad. Dylid chwilio'r catalog cyflawn gan ddefnyddio enwau lleoedd, e.e. plwyf, ardal, tref, fferm a.y.b. a chyfyngu’ chwiliad i fapiau trwy dethol y tab ‘Mapiau’ ar yr ochr chwith.

http://cat.llgc.org.uk/cgi-bin/gw/chameleon?lng=cy

Mae Godfrey Maps yn atgynhyrchu mapiau, sydd yn dangos terfynau plwyfol. Mae’r rhain yn adargraffiadau o hen Fapiau 1”
  • Diweddarwydd diwethaf. May 10, 845
  • Gwelwyd 8
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0