Ble mae Beibl gwreiddiol Mary Jones?
Ateb
| Roedd Mary Jones, yn hwyrach yn ei bywyd, yn meddu ar dri Beibl ac mae un o’r rheini, Beibl Lydia Williams, yn cael ei gadw yma yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru ymhlith Archifau’r Methodistiaid Calfinaidd. Cedwir yr ail Feibl ym mhencadlys Cymdeithas Beibl Prydain a Thramor yn Llundain, a chredir bod y trydydd wedi mynd i’r Unol Daleithiau. Cyhoeddwyd erthygl yng ‘Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru’ (cyfrol LII; rhif 3, Hydref 1967, tt. 74-80) yn esbonio cefndir y tri Beibl. |