A oes gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru unrhyw ddeunydd archifol sy’n ymwneud â diwydiannau, megis gwaith dur, glo, ffowndrïau, peirianneg ac ati?

Ateb

 

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw deunydd archifol sy’n ymwneud â diwydiant - i weld yr hyn sydd ar gael, gallwch chwilio ar ein catalog Archifau a Llawysgrifau  drwy glicio ar y ddolen ganlynol:


https://discover.library.wales/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB

Yna, gallwch roi enw cwmni penodol, neu chwilio o dan bwnc fel ‘glo’, ‘dur’, ac ati. Dylai hyn wedyn eich galluogi i weld beth sydd ar gael gennym.



Os ydych yn dymuno ymweld â’r Llyfrgell, ceir manylion llawn am sut i gael tocyn darllen yn rhan ‘Ymweld â ni’ o’n gwefan, www.llgc.org.uk.

  • Diweddarwydd diwethaf. May 10, 895
  • Gwelwyd 17
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0