A oes yna unrhyw wybodaeth ynglŷn â Madge Breese, a wnaeth y recordiad cyntaf erioed o’r Anthem Genedlaethol Cymru ym 1899?
Ateb
Ychydig iawn a wyddys am Madge Breese, ond ceir cofnod bywgraffyddol yng nghyfnodolyn ‘Cerddoriaeth Cymru’ (cyfrol 9; rhif 7, Gaeaf 1994/95, tudalen 51) a nodir: “Madge Breese oedd y cyntaf erioed i wneud recordiad sain yn yr iaith Gymraeg yn Heol Maiden ar 11 Mawrth 1899. Roedd Miss Breese yn ôl pob tebyg yn fyfyrwraig cerddoriaeth yn Llundain ar y pryd”. Mae’n bosib archebu’r cyfnodolyn yma i’w gweld yn y Llyfrgell drwy gatalog llawn y Llyfrgell: https://discover.library.wales/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB |