Sut allaf chwilio am wybodaeth ynglŷn ag enwau lleoedd Cymraeg a hanes caeau?
Ateb
Ceir nifer o gyhoeddiadau ynglŷn ag enwau lleoedd yng Nghymru, er enghraifft:
· ‘Dictionary of the place-names of Wales’ gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan
Llandysul : Gwasg Gomer, 2007. ISBN: 9781843239017
Gall y wefan hon fod o ddefnydd hefyd:
http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/enwau_cymru.php.cy
Hefyd, mi all mapiau ystâd, degwm, Arolwg Ordnans a chatalogau arwerthiant sydd ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â gweithredoedd a dogfennau eraill fod o gymorth gyda’r astudiaeth yn ogystal â thaflu goleuni ar ddefnydd tir.