A oes yna gyhoeddiadau ar wisgoedd Cymreig?

Ateb

 

Y mae yna nifer o gyhoeddiadau ar wisgoedd Cymreig, a dyma rai teitlau a all fod o ddiddordeb:

· ‘Costumes of the Welsh people’ gan Ilid E. Anthony
Caerdydd : Welsh Folk Museum, 1975. ISBN: 0854850317

· ‘Welsh costume in the 18th & 19th century’ gan Ken Etheridge
Abertawe : Christopher Davies, 1997. ISBN: 0715404113

· ‘Medieval Welsh clothing to 1300’ gan Heather Rose Jones.
Oakland, Calif.: Harpy Music, 1993


Y mae’r rhain, ynghyd ag eraill, ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac y mae croeso i chi ymweld â’r Llyfrgell i ymgynghori â’r eitemau hyn ac i weld beth arall sydd ar gael megis lluniau, ffotograffau ac ati. Ceir manylion llawn am sut i gael tocyn darllen yn rhan ‘Ymweld â ni’ o’n gwefan, www.llgc.org.uk.

Hefyd, efallai y byddai’n syniad i gysylltu gyda’r Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan gan ei bod nhw’n dal casgliad helaeth o wisgoedd. https://amgueddfa.cymru/sainffagan/
  • Diweddarwydd diwethaf. May 10, 862
  • Gwelwyd 28
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0