Rwyf eisiau gwneud ymchwil ar amrywiol Eisteddfodau Cenedlaethol, a oes unrhyw wybodaeth berthnasol ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol?

Ateb

 

Ceir nifer fawr o ffynonellau amrywiol yn y Llyfrgell Genedlaethol a all fod yn ddefnyddiol ar ymchwil ar Eisteddfodau Cenedlaethol.

Y lle gyntaf i ddechrau’r ymchwil yw chwilio’r catalog cyflawn ar-lein, gan ddefnyddio ‘Eisteddfod Genedlaethol’ neu ‘National Eisteddfod’ fel allweddeiriau:

https://darganfod.llyfrgell.cymru/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB



Mae casgliad Ffotograffig Geoff Charles yn gynnwys nifer fawr o ffotograffau o amrywiol Eisteddfodau. 

Efallai byddwch yn dymuno defnyddio papurau newydd fel ffynonellau perthnasol. Mae’r ‘Brython’ yn arbennig yn cofnodi llawer o wybodaeth yn ymwneud â’r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn yna. .

Yn ychwanegol, efallai byddai papurau bro yn ffynonellau defnyddiol ac mae rhestr o ddaliadau’r Llyfrgell ar y dudalen isod: http://www.llgc.org.uk/index.php?id=211&L=1.
  • Diweddarwydd diwethaf. May 11, 546
  • Gwelwyd 3
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0