Rwyf eisiau gwneud ymchwil ar amrywiol Eisteddfodau Cenedlaethol, a oes unrhyw wybodaeth berthnasol ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol?
Ateb
Ceir nifer fawr o ffynonellau amrywiol yn y Llyfrgell Genedlaethol a all fod yn ddefnyddiol ar ymchwil ar Eisteddfodau Cenedlaethol. Y lle gyntaf i ddechrau’r ymchwil yw chwilio’r catalog cyflawn ar-lein, gan ddefnyddio ‘Eisteddfod Genedlaethol’ neu ‘National Eisteddfod’ fel allweddeiriau: https://discover.library.wales/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB Mae casgliad Ffotograffig Geoff Charles yn gynnwys nifer fawr o ffotograffau o amrywiol Eisteddfodau. Dylid defnyddio'r catalog dewis ‘Allweddair’ "Geoff Charles" ac ‘Eisteddfod’ fydd yn cynhyrchu nifer o ganlyniadau. Yn ychwanegol, efallai byddai papurau bro yn ffynonellau defnyddiol ac mae rhestr o ddaliadau’r Llyfrgell ar y dudalen isod: http://www.llgc.org.uk/index.php?id=211&L=1. |