Rwy’n gobeithio ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol i ymchwilio hanes teulu, a oes unrhyw beth y dylwn ddod gyda mi?
Ateb
Mae yno nifer o bethau defnyddiol y gellwch ddod gyda chi wrth ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol. Bydd unrhyw ffeithiau a nodiadau, yn enwedig enwau llawn, dyddiadau a lleoliadau hynafiaid yr ydych wedi eu casglu yn barod yn ddefnyddiol, yn arbennig os ydych wedi ymweld ag archifdai a llyfrgelloedd eraill. Er enghraifft, gellwch fod â ffeithiau o dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth. Dylid nodi os ydych yn bwriadu defnyddio deunyddiau gwreiddiol, megis ewyllysiau, dim ond pensil gellwch ei ddefnyddio. Mae’n bosib edrych ar yr adran ‘Hanes Teulu’ ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol cyn i chi ddod i Aberystwyth os dymunwch. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol ar y wefan hon a all fod o gymorth i chi. Dilynwch y ddolen isod i ymweld â’r dudalen briodol: https://www.library.wales/information-for/family-historians/help |