A yw’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw Mapiau’r Arolwg Ordnans, a sut mae modd eu gweld?
Ateb
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad enfawr o Fapiau’r Arolwg Ordnans (OS), sydd yn rhychwantu nifer o flynyddoedd. Ni dderbyniodd y Llyfrgell mapiau drwy Adnau Cyfreithiol hyd 1911, sy’n golygu bod bylchau yng nghasgliad yr hen Fapiau OS. Serch hynny, mae’r Llyfrgell wedi llwyddo i sicrhau bod y rhan fwyaf o’r deunydd OS sy’n cynnwys Cymru yn eu meddiant yn ogystal â nifer helaeth o fapiau ar gyfer Lloegr a’r Alban. Mae’r casgliad Mapiau OS 6” sydd ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol ar gael ar silffoedd agored Ystafell Ddarllen y De. Dyma’r 1af a’r 2il argraffiadau. Nid yw’r casgliad Mapiau OS 25” sydd ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol ar y silffoedd agored, felly dylid gwneud cais di-OPAC i’w gweld. Mae’r rhain hefyd yn 1af ac 2il argraffiadau. Fe all darllenwyr edrych ar y Mapiau OS modern yn yr Ystafell Ddarllen y De, ar un cyfrifiadur penodol yn unig. Mae’r blynyddoedd yn cynnwys 1998 hyd at y presennol, ac mae’n bosib printio’r holl fapiau o’r cyfrifiadur hwn. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â Mapiau Arolwg Ordnans dilynwch y ddolen isod: http://www.llgc.org.uk/index.php?id=555&L=1 Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â’r Ystafell Ddarllen y De: https://www.llyfrgell.cymru/gwybodaeth-i/ymchwilwyr/darllen-yn-llgc |