A yw’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw lluniadau map rhagbaratoawl a gynhyrchwyd gan yr Arolwg Ordnans ar gyfer Sir Benfro rhwng y blynyddoedd 1789 a 1840?

Ateb

Nid yw’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw lluniadau gwreiddiol yr Arolygwyr Ordnans ond mae gennym gopïau o’r darluniau ar gyfer Cymru, gan gynnwys yr holl rai ar gyfer Sir Benfro.

Fe gynhyrchwyd y mapiau hyn ar raddfa o 2 fodfedd i bob milltir, ac mae’r darluniau ar gyfer Sir Benfro wedi eu dyddio c.1809-1811.

  • Diweddarwydd diwethaf. May 10, 889
  • Gwelwyd 3
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0