A oes gan y Llyfrgell Genedlaethol mapiau’r degwm a chofnodion rhaniad y degwm?
Ateb
I gael arweiniad holl gynhwysfawr ar fapiau’r degwm sydd ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, edrychwch ar 'The Tithe Maps of Wales: A Guide to the Tithe Maps and Apportionments of Wales in the National Library of Wales (Robert Davies, National Library of Wales, 1999).
Mae hwn ar gael i’w ddefnyddio yn y Llyfrgell. Efallai bod modd gweld y cyhoeddiad yn eich llyfrgell gyhoeddus leol, drwy ei chynllun benthyg llyfrau, ac mae hefyd ar gael i’w brynu yn siop y Llyfrgell Genedlaethol:
http://siop.llgc.org.uk/perl/go.pl/shop/index.html?LANG=cym;
Mae’r gyfrol hon yn nodi bod gan y Llyfrgell set gyfan o gopïau gwreiddiol y mapiau degwm o ardaloedd degwm Cymreig oedd yn yr esgobaethau Cymreig wedi Datgysylltiad.