A oes gan y Llyfrgell Genedlaethol unrhyw destunau cyfrwng Saesneg o areithiau o gynadleddau’r blaid gan arweinwyr Plaid Cymru a wnaethpwyd yn ystod y degawdau diwethaf?

Ateb

Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn cadw archif sylweddol iawn o ddeunyddiau a roddwyd gan Plaid Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys (o fewn dosbarth G) cofnodion yn ymwneud â chynadleddau blynyddol y blaid.

Fodd bynnag, mae’r rhain yn bennaf yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd mewn amrywiol cynadleddau, gohebiaeth, a phapurau’n ymwneud â threfniadau cynadleddau.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Archif Wleidyddol Gymreig, dilynwch y ddolen isod:

http://www.llgc.org.uk/index.php?id=503&L=1

Y ffynhonnell orau sy’n ymwneud ag areithiau’r cynadleddau yw adroddiadau mewn papurau newydd, ond dim ond crynodeb o gynnwys yr areithiau bydd yn y rhain.

Er mwyn edrych am wybodaeth eich hun, dilynwch y ddolen isod i chwilio catalog cyflawn y Llyfrgell Genedlaethol ar-lein:

https://discover.library.wales/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB

  • Diweddarwydd diwethaf. May 10, 914
  • Gwelwyd 3
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0