A yw’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw unrhyw gofnodion o fabwysiadu?
Ateb
Ni ddechreuodd y broses gyfreithiol o fabwysiadu tan 1927, ac mae’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn cadw’r Gofrestr Mabwysiadu Plant o’r dyddiad yma. Rhaid cwblhau ffurflen arbennig (CAS54) i dderbyn tystysgrif o gofnod cofrestr. Mae mynegai'r gofrestr, a ellir ei darllen yn y Ganolfan Cofnodion Teulu yn Llundain, yn rhoi enw mabwysiedig y plentyn, a dyddiad y mabwysiad. Mae’r dystysgrif ei hun yn rhoi enw’r llys, dyddiad y gorchmyniad, dyddiad geni'r plentyn, ynghyd ag enwau, galwedigaethau a chyfeiriadau’r rhieni mabwysiol, ond nid yw'n datgelu enw’r plentyn cyn iddo/i gael ei mabwysiadu. Gall disgynyddion cael mynediad i bapurau mabwysiadu, ond rhaid gwneud cais i lys yn gyntaf.
Fodd bynnag, os yw unigolyn wedi’i fabwysiadu cyn 1927, byddai’r term mabwysiadu yn golygu gwarchodaeth neu faethiad. Bydd cofnodion, os ydynt wedi eu paratoi neu oroesi o gwbl, yn anodd iawn eu holrhain, gan fod y trefniant yn aml yn drefniant preifat. Serch hyn, mae cofnodion o rai elusennau sydd wedi goroesi, megis Dr Barnardo’s. Mae cofnodion Dr Barnardo’s ar gadw ym Mhrifysgol Lerpwl, ac mae’n bosib eu chwilio drwy gais post yn unig i’r cyfeiriad:
After-Care Department,
Barnado's,
Tanners Lane,
Barkingside,
Essex
IG6 1QG.