A yw’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw Arysgrifau Coffa yn ei chasgliad?
Ateb
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw Arysgrifau Coffa yn ei chasgliadau, ond mae’r arysgrifau eu hunain yn amrywiol ac wedi eu cadw ar hap yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Y lle cyntaf i edrych yw catalog cyflawn ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol:
https://darganfod.llyfrgell.cymru/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB
Mae mynegai cyflawn ar gyfer yr holl Arysgrifau Coffa sydd ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol ar gael ac i’w weld yn Ystafell Ddarllen y De.
Mae rhai casgliadau o Arysgrifau Coffa wedi eu cyhoeddi, ac mae’r rhain hefyd yn cael eu cadw ar silffoedd agored Ystafell Ddarllen y De.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol casgliad enfawr o Arysgrifau Coffa sy’n ymwneud â’r ardal sy’n amgylchynu Aberystwyth.