A oes gan y Llyfrgell Genedlaethol ddata ar enwau a chyfenwau Cymreig poblogaidd?
Ateb
Mae’r wefan ganlynol yn ddefnyddiol, ac efallai o ddiddordeb:
http://www.statistics.gov.uk/statbase/Product.asp?vlnk=15282
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol ystadegau’r cyfrifiad, fodd bynnag dim ond ystadegau rhifol yn hytrach nag enwau sy’n gynwysedig yn y cyhoeddiad hwn.
Mae’r papur newydd y Western Mail yn cyhoeddi rhestr flynyddol o enwau poblogaidd ayb yng Nghymru, ac mae copïau o’r rhain ar gael i edrych arnynt yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
I gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â’r Llyfrgell, dilynwch y ddolen isod:
https://www.library.wales/visit/before-your-visit/opening-times