Oes gan y Llyfrgell Genedlaethol casgliadau o bapurau newydd tramor, yn enwedig rhai Americanaidd megis y New York Times a’r Chicago Times?
Ateb
Mae gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru copïau o’r ‘New York Times’ o 1851 hyd at heddiw ar ficroffilm, ac mae’n bosib edrych arnynt wedi gwneud cais. Mae’r Llyfrgell hefyd yn cadw copïau o amrywiol bapurau newydd eraill, ond yn anffodus, mae’r casgliadau yn anghyflawn.
Gellwch chwilio am Bapurau Newydd drwy ddefnyddio catalogau cerdyn y Llyfrgell neu drwy gatalog llawn ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol drwy ddilyn y linc isod:
https://darganfod.llyfrgell.cymru/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB