A yw hi’n bosib gweld cyfrifiad 1911 yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac os ydyw, a oes angen archebu?
Ateb
Mae’n bosib gweld copi o gyfrifiad 1911 yn y Llyfrgell. Gellwch archebu i weld y cyfrifiad wrth gyrraedd, ac mae’r drefn ar sail y cyntaf i’r felin.
Pe baech yn dymuno derbyn copïau o dudalennau’r cyfrifiad, gellir eu copïo am £1.00 am bob tudalen A3.