Oes angen tocyn darllen arnaf i ddefnyddio casgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol ac faint fydd hyn yn costio?
Ateb
Bydd angen tocyn darllen i gael mynediad i’r ystafelloedd darllen, dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth:
https://www.llyfrgell.cymru/ymweld-a-ni/cyn-ymweld/tocynnau-darllen
Gellwch gofrestru o flaen llaw, ond cofiwch ddod â dau brawf adnabod gyda chi, gan gynnwys un sy’n dangos eich cyfeiriad presennol.
Nid yw’r tocyn yn costio unrhyw beth.