A yw’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw unrhyw ffynonellau yn ymwneud â’r Wladfa ym Mhatagonia?
Ateb
Mae arddangosfa ar-lein a elwir ‘Man gwyn, man draw?’ ar dudalennau Drych Digidol y Llyfrgell, sy’n cynnwys adran yn ymwneud â Phatagonia:
http://digidol.llgc.org.uk/METS/XMU00001/ardd?locale=cy
Gellir gweld nifer o eitemau wedi eu digideiddio sy’n ymwneud â’r Wladfa yma.
Mae gwefan Glaniad (www.glaniad.com), prosiect gan Culturenet Cymru, hefyd yn cynnwys gwybodaeth a lluniau o eitemau wedi eu digideiddio sy’n ymwneud â Phatagonia a’r Wladfa ym Mhatagonia.
Ceir hefyd dudalennau ar wefan y Llyfrgell sydd yn rhestru llawysgrifau, llythyrau a thraethodau ymchwil ynghylch y Wladfa ym Mhatagonia:
http://www.llgc.org.uk/index.php?id=238&L=1
A llyfrau ac erthyglau ar y Wladfa ym Mhatagonia:
http://www.llgc.org.uk/index.php?id=239&L=1
O ran ymfudiad, dylai’r wefan hon brofi’n ddefnyddiol:
http://www.findmypast.com/passengerList (Talu wrth ddefnyddio)
Mae’r cyhoeddiadau canlynol hefyd yn berthnasol:
"Yr Hirdaith", Elvey MacDonald (2003)
"Dyddiadur Mimosa", Joseph Seth Jones, Elvey MacDonald (2002)
"Powys to Patagonia", Eirionedd Baskerville (2001)