Beth yw’r cyfnod cynharach i astudio cofnodion, yn cynnwys llawysgrifau, ar gyfer enwau personol?
Ateb
Mae cofnodion ar enwau personol Cymreig yn dechrau gydag arysgrifau cynnar ar grochenwaith yn Gaul, ac ar garreg yn yr Ynysoedd Prydeinig. Mae D. Ellis Evans, "Gaulish Personal Names" (Oxford, 1967) ac V. E. Nash-Williams, "The Early Christian Monuments of Wales" (Cardiff, 1950) yn ddefnyddiol yn y cyd-destun hwn.
Mae nifer o enwau personol hefyd yn ymddangos yn Llyfr Llandaf o’r ddeuddegfed ganrif, sydd ar gael ar dudalennu'r Drych Digidol ar wefan y Llyfrgell (http://www.llgc.org.uk/index.php?id=1667&L=1). Mae’r siarteri yn y llawysgrif hon, sydd yn cynnwys enwau personol, yn cael eu trafod gan Wendy Davies yn "The Llandaff Charters" (Aberystwyth, 1979).