A yw hi’n bosib benthyg eitemau o’r Llyfrgell Genedlaethol drwy’r post os nad wyf yn medru ymweld â’r Llyfrgell?

Ateb

Yn anffodus, gan mai Llyfrgell Adndau Cyfreithiol yw'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru, nid ydym yn rhoi unrhyw beth ar fenthyg; dim ond yn y Llyfrgell yn unig ellir defnyddio eitemau.

Serch hyn, os hoffech dderbyn copi o eitem, mae’n bosib cysylltu â’r tîm ymholiadau:

http://www.llgc.org.uk/index.php?id=147&L=1

Ceir manylion ynghylch derbyn copïau ar dudalen ‘Atgynhyrchu Deunydd’ gwefan y Llyfrgell (http://www.llgc.org.uk/index.php?id=140&L=1)

Mae’r Llyfrgell yn cymryd rhan yng nghynllun Rhyngfenthyg (ILL - Inter Library Loan), a gellwch gysylltu gyda’r tîm ymholiadau am fwy o fanylion.

Mae Catalog Llyfrgell Copac yn rhoi mynediad am ddim i gatalogau cyfun nifer o Lyfrgelloedd Brifysgolion, Arbenigol a Chenedlaethol y DU ac Iwerddon; dilynwch y ddolen i chwilio’r catalog:

https://www.jisc.ac.uk/library-hub-discover

  • Diweddarwydd diwethaf. May 10, 979
  • Gwelwyd 21
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0