A oes gan y Llyfrgell Genedlaethol weithiau printiedig yn yr Hebraeg?
Ateb
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol lyfrau print yn yr Hebraeg, yn bennaf geiriaduron, llyfrau gramadeg a llyfrau crefyddol.
Gan fod y rhan helaeth o’r rhain yn dyddio cyn 1986, mae’n bosib na fyddwch yn gallu dod o hyd i’r cofnodion llyfryddol ar ein catalog ar-lein.
Mae’n bosib bod cofnodion ar gyfer yr eitemau hyn ar gael ar ein hen gatalog microfiche, sydd ar gael yn Ystafell Darllen y Gogledd.