Rwy’n edrych am gyfrolau o lythyrau a dyddiaduron Lady Eleanor Butler (1739-1829) a Sarah Ponsonby (1755-1831). A allech fod o gymorth?
Ateb
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw’r llawysgrif gwreiddiol, yn ogystal â chopïau ar ficroffilm (NLW MSS 22967-22996 a NLW Film 999-1003), ac maent yn rhan o Bapurau Hamwood.
O dan y penawd “Ladies of Llangollen” mae’r "Guide to the Department of Manuscripts and Records at the National Library of Wales" yn datgan "see Eva Mary Bell, The Hamwood papers of the Ladies of Llangollen and Caroline Hamilton (London, 1930)". Mae copi o’r llawlyfr hwn ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.