A yw hi’n bosib i mi edrych ar lawysgrif Llyfr Gwyn Rhydderch?
Ateb
Mae fersiwn o Lyfr Gwyn Rhydderch (Llsgr. Peniarth 4) wedi’i ddigideiddio ar gael i edrych arno ar dudalennau’r Drych Digidol ar wefan y Llyfrgell (https://www.library.wales/discover/digital-gallery/manuscripts/the-middle-ages/white-book-of-rhydderch#?c=&m=&s=&cv=&xywh=-359%2C0%2C4797%2C4079). Mae’r eitem wedi’i restru yn adran ‘Llawysgrifau’ y Drych Digidol: ‘Llyfr Gwyn Rhydderch’.
Ceir nifer o lawysgrifau ar Ddrych Digidol y wefan, ac mae mwy a mwy yn parhau i gael eu hychwanegu.