A yw hi’n bosib i mi edrych ar lawysgrif Llyfr Taliesin?
Ateb
Mae fersiwn digidol o ‘Lyfr Taliesin’ (Llsgr. NLW Peniarth 2) ar gael i edrych arno ar dudalennau’r Drych Digidol ar wefan y Llyfrgell (https://www.llyfrgell.cymru/darganfod/oriel-ddigidol/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-taliesin). Mae’r eitem wedi’i restru yn adran ‘Llawysgrifau’ y Drych Digidol: ‘Llyfr Talieisn’. Ceir nifer o lawysgrifau ar Ddrych Digidol y wefan, ac mae mwy a mwy yn parhau i gael eu hychwanegu. |