A yw’n bosib gweld llawysgrif ‘Hengwrt Chaucer’?
Ateb
Ceir gwybodaeth ynglyn a llawysgrif ‘Hengwrt Chaucer’ (Llgsr. Peniarth 392D) ar dudalennau Y Drych Digidol ar wefan y Llyfrgell (https://www.llyfrgell.cymru/darganfod/oriel-ddigidol/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/chaucer-hengwrt). Roedd y gwreiddiol mewn arddangosfa yn y Llyfrgell dros yr Haf 2010, ac mae cynlluniau i gael arddangosfa Chaucer yn 2013. Mae fersiwn ddigidol ar CD-ROM ar gael, ac er nad yw’r fersiwn hon o’r llawysgrif i’w weld ar-lein, mae’n bosib defnyddio copi’r Llyfrgell neu brynu copi eich hun. Ceir nifer fawr o lawysgrifau wedi’u digideiddio ar dudalennau’r Drych Digidol ar wefan y Llyfrgell, ac mae mwy a mwy yn parhau i gael eu digideiddio. https://www.llyfrgell.cymru/casgliadau/dysgwch-fwy/llawysgrifau |