Rwy’n fyfyriwr Cernyweg ac eisiau mynediad i rai o’ch deunyddiau cyfrwng Cernyweg, sut mae’n bosib i mi wneud hyn?
Ateb
Mae rhai deunyddiau Cernyweg sydd yng nghasgliad y Llyfrgell wedi cael eu digideiddio, megis Beunans Meriasek (Llsgr. Peniarth 105B) a Beunans Ke (Llsgr. NLW 23849D). Mae’r rhain ar gael am ddim drwy adran Drych Digidol ein gwefan (http://www.llgc.org.uk/index.php?id=122&L=1). Mae’r Llyfrgell hefyd yn gartref i gopi o “Short Stories and Folk Tales” gan R. St. V. Allin-Collins (Llsgr. NLW 6075C). Er nad yw wedi’i ddigideiddio, mae’n bosib ei archebu i’w weld yn Ystafelloedd Ddarllen y Llyfrgell Genedlaethol. Yn ogystal â deunyddiau Cernyweg, rydym hefyd â deunyddiau mewn ieithoedd eraill. Ceir manylion Casgliadau Celtaidd y Llyfrgell ar y wefan (http://www.llgc.org.uk/index.php?id=3377&L=1). Mae gan y Llyfrgell adran ar Casgliadau Ethnic yn ogystal, ac eto mae’n bosib cael mwy o fanylion ar y wefan (http://www.llgc.org.uk/index.php?id=77&L=1). |