A ydych yn cadw papurau pleidiau gwleidyddol?
Ateb
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw amryw o ffynonellau sy’n ymwneud â’r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru ac mae’r ffynonellau hyn yn cynnwys papurau, gohebiaethau a munudau, ymysg pethau eraill. Y ffynonellau mwyaf cynhwysfawr yw’r rhai sy’n ymwneud â Phlaid Cymru a’r Blaid Lafur, er ceir hefyd gasgliadau o gofnodion yn ymwneud â’r Blaid Geidwadol, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd. Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983 i gydlynu’r gwaith o gasglu tystiolaeth ddogfennol o bob math am wleidyddiaeth yng Nghymru. Gellwch ddilyn y ddolen isod am fwy o wybodaeth: http://www.llgc.org.uk/index.php?id=503&L=1 Mae’r archif ei hun yn cynnwys cofysgrifau a phapurau pleidiau gwleidyddol, gwleidyddion, mudiadau lled-wleidyddol, ymgyrchoedd a charfanau pwyso; ac yn cynnwys deunydd megis taflenni, pamffledi, effemera, posteri a ffotograffau; a thapiau rhaglenni radio a theledu. Gellwch hefyd gael mynediad i bapurau'r rhai gwleidyddion, gan gynnwys David Lloyd George, T E Ellis, J Herbert Lewis, Samuel T Evans a nifer mwy. Mae’n bosib chwilio’r Archif Wleidyddol Gymreig ar gatalog cyflawn y Llyfrgell Genedlaethol: https://darganfod.llyfrgell.cymru/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB Cofiwch nodi'r math o ddeunydd yr ydych yn chwilio, er enghraifft gellwch ddewis ‘Archifau a Llawysgrifau’ ar yr ochr chwith. |