Sut gallaf i ddod o hyd i bapurau ordeinio?
Ateb
Mae’n bosib gwirio pa ordeiniadau a ddigwyddodd mewn blynyddoedd penodol drwy gyfeirio at "Crockford's Clerical Directory". Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw’r cyfrolau hyn, a gellwch ddilyn y ddolen isod i chwilio’r Catalog Cyflawn:
https://darganfod.llyfrgell.cymru/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB
Mae’r "Crockford's Clerical Directory" hefyd ar gael ar-lein ar wefan www.ancestry.co.uk. Yno fe gewch ddysgu mwy am y cyfeirlyfr, a chwilio’r cyfeirlyfr ei hun. Fodd bynnag, mae’n rhaid talu i edrych ar y deunyddiau perthnasol.