Rwyf am wneud ymchwil ar droseddau, troseddwyr a chosb, ble byddwn yn dechrau’r ymchwil hwn?
Ateb
Mae’r gronfa ddata Trosedd a Chosb ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys data am droseddau, troseddwyr a chosb sydd ar gael ymhlith ffeiliau carchar Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru, o 1730 hyd at ei ddiddymiad yn 1830. Gellwch ddilyn y ddolen isod i chwilio’r gronfa ddata: https://troseddachosb.llyfrgell.cymru/sf_c.php Nid yw cofnodion Llys y Sesiwn Fawr yn cynnwys achosion a wrandawyd yn Sir Fynwy, gan ei fod yn ffurfio rhan o gylchdaith brawdlys Rhydychen. Mae’r cofnodion hyn ar gael yn yr Archif Genedlaethol, gellwch ddilyn y ddolen isod i ymweld â’u gwefan: http://www.nationalarchives.gov.uk/default.htm Fodd bynnag, gwrandawyd ar y rhan fwyaf o fan-droseddau yn y Llysoedd Chwarter, ac mae’r cofnodion hyn ar gael yn yr archifdai lleol. Gellwch chwilio manylion y cofnodion hyn drwy ddilyn y ddolen isod: http://www.archiveswales.org.uk/cy/?no_cache=1 Fel arall, gellwch chwilio Catalog Cyflawn y Llyfrgell arlein: https://darganfod.llyfrgell.cymru/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB |