A yw’r Llyfrgell Genedlaethol yn rhoi papurau newydd diweddar ar ficroffilm?
Ateb
Hyd at Ragfyr 2009, roedd y rhan helaeth o bapurau newydd yng Nghymru, rhai dyddiol ac wythnosol, yn cael eu rhoi ar ficroffilm. Fodd bynnag, ers mis Ionawr 2010 mae microffilmio wedi dod i ben. Yn ogystal nid yw casgliadau o unrhyw hen bapurau newydd sydd wedi eu prynu gan y Llyfrgell neu sydd wedi eu derbyn trwy fodd arall ers Ionawr 2010, yn cael eu rhoi ar ficroffilm. |