Beth yw’r tri llyfr hynaf â gyhoeddwyd yn y Gymraeg sydd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol?

Ateb

 

Y tri llyfr hynaf i’w cyhoeddi yng Nghymru yn yr iaith Gymraeg, ac sydd ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol yw:

Sir John Price, Yn y llyvyr hwn y traethir. Gwydor kymraeg...
Llundain, Edward Whitchurch, 1546

Gruffudd Hiraethog. Oll synnwyr pen Kembero ygud
Llundain, Nycholas Hyll, (1547?)

Ban wedy i dynnu air yngair alla o hen gyfreith Howel Da...A certaine case extracte out of the auncient Law of Hoel Da (gol. Gan William Salesbury)
Llundain, Roberte Crowley, 1550

Daw’r wybodaeth o Libri Walliae; catalog o lyfrau Cymraeg a llyfrau a argraffwyd yng Nghymru, 1546-1820 gan Eiluned Rees (Aberystwyth, 1987)

Gellir gweld copi o 'Yn y llyvyr hwn' ar y Drych Digidol ar wefan y Llyfrgell: http://www.llgc.org.uk/index.php?id=290&L=1
  • Diweddarwydd diwethaf. May 11, 523
  • Gwelwyd 25
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0