A yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw unrhyw beth yn ymwneud ag hanes carcharu yng Nghymru?

Ateb

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw nifer o gofnodion a deunydd defnyddiol ynglŷn ag hanes carcharu yng Nghymru. Y cam cyntaf fyddai chwilio’r catalog cyflawn ar-lein:

https://darganfod.llyfrgell.cymru/primo-explore/search?vid=44WHELF_NLW_NUI&lang=cy_GB

O ran deunydd print, chwiliwch gatalog cyflawn y Llyfrgell trwy ddefnyddio ‘prisons wales history’ fel PWNC er mwyn cael manylion o’r teitlau sydd ar gael yma, e.e. llyfrau ac erthyglau Richard W. Ireland a Russell Davies. Gellid hefyd chwilio dan dermau megis ‘gaol’, ‘carchar’ neu ‘jail’ gyda ‘Wales’. Mae’n bosib hefyd bod rhai traethodau ymchwil wedi’u llunio ar y pwnc ac mae cofnodion traethodau hefyd ar gael yn ein catalog cyflawn.

Mae gan y Llyfrgell gasgliad o gofnodion Llys y Sesiwn Fawr a gellid chwilio’r ffeiliau carchar ar gronfa ‘Trosedd a Chosb’ y Llyfrgell, sydd ar gael ar-lein ar ein gwefan:

https://troseddachosb.llyfrgell.cymru/sf_c.php

Mae gennym gasgliad helaeth iawn o bapurau newydd, lle gellir dod o hyd i adroddiadau yn ymwneud a throseddau ac achosion llys. Mae modd dod yma i’w gweld, ond byddai angen cael rhyw syniad o deitlau, dyddiadau ac erthyglau.

Byddai’n ddefnyddiol hefyd chwilio am wybodaeth yn yr archifdai sirol gan mai yma y ceir cofnodion y Llysoedd Chwarter. Gellid edrych ar wefan ‘Rhwydwaith Archifau Cymru’ am fanylion:

http://www.rhwydwaitharchifaucymru.info

Gall fod o gymorth i chi gysylltu ag adrannau hanes lleol y gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus; mae’n bosib bod ganddynt gronfeydd data y mae modd eu chwilio fesul pwnc, neu ffeiliau o wybodaeth leol.

Hefyd gellwch gysylltu â’r Comisiwn Henebion er mwyn gweld pa ffotograffau a chynlluniau o garchardai sydd ar gael: http://www.rcahmw.gov.uk/

  • Diweddarwydd diwethaf. May 11, 567
  • Gwelwyd 25
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0