A oes gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad o lyfrau prin ar hanes Mytholeg Cymru a thu hwnt?
Ateb
Ceir nifer o gasgliadau am Fytholeg Cymru a thu hwnt yn y Llyfrgell Genedlaethol, a rhestrir rhai isod:
Casgliad Bourdillon: Casgliad pwysig o lawysgrifau a llyfrau cynnar a gasglwyd gan Francis William Bourdillon (1852-1921). Mae’n cynnwys nifer o weithiau Arthuraidd, gan gynnwys 23 argraffiad o’r “Roman de la Rose” wedi eu cyhoeddi cyn 1550.
Casgliad Arthuraidd: Mae hwn yn adeiladu ar gasgliad Bourdillon ac mae’r Llyfrgell wedi casglu dros 3,000 o weithiau ar y chwedlau Arthuraidd.
Casgliad T. Witton Davies: Llyfrgell yr ysgolhaig Beiblaidd T. Witton Davies (1851-1923), sy’n cynnwys gweithiau ar swyngyfaredd a chythreuliaeth.
Casgliad Sidney Hartland: Mae casgliad Edwin Sidney Hartland (1848-1927) yn cynnwys tua 4,200 o gyfrolau sy’n arbenigo mewn llên gwerin ac anthropoleg.