A oes gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad o lyfrau prin i blant?
Ateb
Ceir nifer o gasgliadau o lyfrau prin i blant yn y Llyfrgell Genedlaethol:
Mae yna gasgliad o tua 450 o lyfrau i blant a gyhoeddwyd cyn 1870; cafodd ei ddechrau gan C. J. Knight ac ychwanegwyd ato wedyn.
Casgliad D. J. Williams: Casglwyd tua 500 o lyfrau Cymraeg i blant gan yr ysgolfeistr a’r awdur D. J. Williams (1886-1950), gan gynnwys rhai wedi eu cyhoeddi yn y 19eg ganrif.