A oes casgliadau o lyfrau prin sy'n berthnasol i hanes lleol yng Nghymru ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol?

Ateb

Ceir nifer o gasgliadau sy’n berthnasol i hanes lleol yng Nghymru yn y Llyfrgell:

Ffeil Aberdâr: Ffeil yr argraffydd Parch. Josiah Thomas Jones (1799-1873) sydd yn cynnwys tua 1,200 eitem wedi’u hargraffu yn Aberdâr neu sy’n ymwneud â’r dref ym 1835-73.

Casgliad Anderson: Casgliad o tua 140 o weithiau gan neu am John Donne. Roedd teulu Donne yn gysylltiedig â Llanilltud Fawr, Morgannwg.

Ffeil Aberteifi: Casgliad o tua 5,000 o eitemau gan was Isaac Thomas, Aberteifi, yn bennaf o’r cyfnod 1826-65.

Casgliad Castell Gorfod: Casgliad o tua 1,500 o eitemau, yn ymwneud â Sir Frycheiniog a Sir Gaerfyrddin.

Casgliad Henry Owen: Detholiad allan o lyfrgell yr hynafiaethydd Henry Owen (1844-1919), sy’n cynnwys gweithiau cynnar am Sir Benfro a gan awduron o’r sir.

Casgliad Morris Parry: Casgliad o tua 240 eitem am Gymru, yn Gymraeg a Saesneg, â argraffwyd gan fwyaf yng Nghaer yn y 18fed a’r 19eg ganrif.

  • Diweddarwydd diwethaf. May 11, 849
  • Gwelwyd 22
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0