A oes gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad o gofrestri bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau?

Ateb

Mae bron pob plwyf yng Nghymru wedi rhoi eu cofrestri ar adnau un ai yn y Llyfrgell neu yn un o'r archifdai sirol.

Ceir manylion am leoliadau'r cofrestri plwyfol, a'u dyddiadau, yn ‘Cofrestri Plwyf Cymru/Parish Registers of Wales’ gan C.J.Williams a J Watts-Williams.

Mae rhai o gofnodion yr Anghydffurfwyr ar gael yn y Llyfrgell hefyd, a cheir manylion am leoliad y cofrestri a’u dyddiadau yn ‘Cofrestri Anghydffurfiol Cymru/Nonconformist Registers of Wales’ gan Dafydd Ifans. Mae mwy o wybodaeth am gofnodion yr Anghydffurfwyr ar gael ar wefan y Llyfrgell drwy ddilyn y ddolen yma:

http://www.llgc.org.uk/index.php?id=486&L=1

Yn ogystal â hyn, mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gronfa ddata Capeli, sydd yn cynnwys gwybodaeth am gofnodion Capeli yng Nghymru. Mae’r gronfa hon ar gael yn fewnol yn unig, ar un cyfrifiadur penodedig yn Ystafell Ddarllen y De. I chwilio’r gronfa hon, dylech ymweld ag Ystafell Ddarllen y De.

  • Diweddarwydd diwethaf. May 11, 916
  • Gwelwyd 23
  • Atebwyd gan: Iwan ap Dafydd

FAQ Actions

Oedd hyn o gymorth? 0 0